Achub ein Strydoedd Mawr
Mae gan Ddemocratiaid Rhyfrydol Cymru gynllun clir i gefnogi siopau lleol, diogelu swyddi a dod â balchder yn ôl i’n trefi, ein dinasoedd a’n cymunedau.
Mae costau sy'n troelli allan o reolaeth, troseddau cynyddol ac ardrethi busnes annheg wedi gwthio llawer o fusnesau bach i’r dibyn. Mae ein cymunedau yn haeddu gwell.
Mae Llafur Cymru wedi cael y cyfle i ddiogelu ein strydoedd mawr yng Nghymru ond wedi dewis peidio â gwneud hynny. Mae Llafur Cymru wedi llywyddu dros yr ardrethi busnes uchaf yng Nghymru mewn 26 mlynedd, sy'n uwch nag unrhyw le arall ledled y DU. Mae hyn wedi arwain at un o bob chwe siop yng Nghymru yn wag yn 2023 heb unrhyw arwydd o adfywiad.
Mae Democratiaid Rhyfrydol Cymru eisiau:
- Creu cronfa canol trefi gwerth £400 miliwn i’w buddsoddi mewn gwneud ein strydoedd yn lân, yn fwy diogel ac yn fwy gwyrdd.
- Mynnu bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu toriad TAW o 5% ar unwaith ar gyfer busnesau lletygarwch er mwyn rhoi hwb i strydoedd mawr sy’n ei chael hi’n anodd a gostwng prisiau i deuluoedd sydd dan bwysau.
- Trwsio ardrethi busnes annheg fel bod busnesau’r stryd fawr yn gallu cystadlu’n deg â chewri ar-lein.
Cefnogwch ein Hymgyrch i Achub ein Strydoedd Mawr
Llofnodwch isod i gefnogi ein cynllun i achub strydoedd mawr Cymru.