Cadan ap Tomos
Rheolwr Ymgyrchoedd Cymru
Rhagor am Cadan
Mae Cadan wedi bod yn aelod ymroddedig o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ers yn 17 oed. Mae wedi arwain ymgyrchoedd etholiadol llwyddiannus ar bob lefel ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys fel rhan o'r tîm craidd a enillodd is-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 2019.
Mae hefyd wedi sefyll mewn etholiadau ei hun, gan gynnwys fel yr ymgeisydd ieuengaf o unrhyw blaid yng Nghymru yn Etholiad Cyffredinol San Steffan 2015.
Bu Cadan yn Gadeirydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac yn llefarydd ar ran y blaid. Mae bellach wedi ail-ymuno â staff y blaid ar ôl gyrfa bron i ddegawd ym maes cyfathrebu, gan weithio i elusennau cenedlaethol, sefydliadau ymchwil a chanolfan gelfyddydau fawr.
Ei gyfrifoldebau
- Cefnogi ymgyrchoedd etholiadol mewn etholaethau a rheoli ymgyrchoedd pwysig yn uniongyrchol.
- Datblygu sgiliau ymgyrchu gwirfoddolwyr a staff, a meithrin y gallu i ymgyrchu ar draws y blaid yng Nghymru.
- Gwneud yn siŵr bod cyfathrebu rhwng ymgyrchoedd ar lawr gwlad yng Nghymru a rhwng y blaid yng Nghymru a’r blaid ffederal.
- Ennill etholiadau.
Cysylltwch â ni:
Ebost: kevin.wilkins@libdems.org.uk