[Translate to Welsh:] A picture of Justin Griffiths

CHTh Dyfed-Powys - Justin Griffiths

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhoeddi mai Justin Griffiths yw eu hymgeisydd ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn etholiad Mai 2024 sydd i ddod.

Wrth sôn am gael ei ddewis yn ymgeisydd, dywedodd Justin Griffiths:

"Os caf fy ethol, fy nod fydd rhoi gwasanaeth plismona mwy agored ac atebol ar waith yn y gymuned. Byddwn yn ceisio ailgyflwyno plismona cymunedol priodol gan wneud yn siŵr bod swyddogion i’w gweld yn ein cymunedau ac nad ydynt yn cael eu dargyfeirio i feysydd eraill. Bydd mynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn cyfiawnder troseddol yn flaenoriaeth hefyd, yn ogystal â rhoi argymhellion Comisiwn Thomas ar waith o ran datganoli pwerau.

Byddwn yn gweithredu gwasanaeth plismona tecach a mwy tosturiol e.e. pwyslais ar roi troseddwyr cyffuriau ar raglenni adsefydlu. Dyma enghraifft o sut rydym yn ystyried y cyd-destun cyfan wrth leihau aildroseddu a gostwng nifer yr achosion llys sy’n cronni a nifer y bobl yn ein carchardai gorlawn."

This website uses cookies

Please select the types of cookies you want to allow.