Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhoeddi mai Mike Hamilton yw eu hymgeisydd ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent yn etholiad Mai 2024 sydd i ddod.
Wrth sôn am gael ei ddewis yn ymgeisydd, dywedodd Mike Hamilton:
"Mae Heddlu Gwent yn sefydliad sy'n methu. Nid yw’r cyhoedd yn ymddiried ynddo oherwydd ei lu o fethiannau. O ganlyniad i’w ddiwylliant hen ffasiwn, neu’r canteen culture, mae nifer wedi bod yn destun ymchwiliad am gamymddygiad difrifol, ac mae llawer yn ymddiswyddo cyn bod modd eu diswyddo. Mae rhai wedi galw am iddo gael ei roi o dan fesurau arbennig neu’n destun ymchwiliad annibynnol. Mae'r sefydliad yn destun nifer o ymchwiliadau parhaus o hyd, gan gynnwys un i'r diwylliant gwenwynig a amlygwyd yn y negeseuon testun a roddwyd i bapur newydd y Times. Cafwyd adroddiad damniol gan Arolygiaeth yr Heddlu yn 2023 a ddatgelodd lu o fethiannau.
Ond nid oes angen Arolygiaeth yr Heddlu na'r cyfryngau arnoch i wybod bod Heddlu Gwent yn methu - mae’r methiannau i’w gweld yn glir. Roedd fy ward yn ninas Casnewydd yn ardal dawel a diogel ddegawd yn ôl, ond mae’n teimlo fel bod yr heddlu wedi anghofio amdani erbyn hyn. Pan godir materion, mae ymateb yr heddlu yn drahaus ac yn nawddoglyd.
Os caf fy ethol: