[Translate to Welsh:] A picture of Richard Marbrow

CHTh Gogledd Cymru - Richard Marbrow

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhoeddi mai Richard Marbrow yw eu hymgeisydd ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru yn etholiad Mai 2024 sydd i ddod.

Wrth sôn am gael ei ddewis yn ymgeisydd, dywedodd Richard Marbrow:

"Dylai’r blaenoriaethau plismona yn y gogledd adlewyrchu amrywiaeth yr anghenion yn yr ardal. Rwy’n byw yn yr Wyddgrug, yn y dwyrain, ond mi fydda i’n Gomisiynydd ar gyfer pob rhan o Sir y Fflint, Wrecsam, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae troseddau gwledig yn broblem a ddylai gael sylw yng Ngogledd Cymru, ond mi fydda i’n blaenoriaethu dau fater arall sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru. Y cyntaf yw troseddau treisgar sy’n effeithio ar ferched a genethod. Fel eich Comisiynydd, mi fydda i’n cyflwyno prosiectau diogelwch cymunedol, a bydd gwneud i ferched a genethod deimlo’n fwy diogel ar draws ein cymunedau yn flaenoriaeth i’r Heddlu. Dylai merched deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ac ar nosweithiau allan, a dylai pob merch ifanc allu tyfu i fyny heb ofni bod eu rhywedd yn eu rhoi mewn perygl.

Nid yw'n dderbyniol bod cyfraddau erlyn mor isel ac nad yw merched yn teimlo eu bod yn gallu dirwyn achosion i ben. Mae gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu rôl hanfodol a dyletswydd i wneud yn siŵr bod merched a genethod ar draws y rhanbarth yn teimlo bod Gogledd Cymru yn lle diogel.

Mynd i’r afael ag effaith seiberdroseddu yn ein cymuned yw fy ail flaenoriaeth. Sgamiau a mynediad diawdurdod at ddata sy'n cael sylw yn y newyddion ond yn rhy aml rydym yn anghofio am y rhai sy’n cyflawni’r troseddau hyn a’r bobl sy’n cael eu heffeithio. Gan fod gen i brofiad proffesiynol ym maes Diogelu Data, byddaf yn gallu arwain blaenoriaethau yn y maes hwn a rhoi cynlluniau ar waith i helpu i atal y troseddau hyn yn ogystal â helpu dioddefwyr.

Mae pob pleidlais i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiad hwn yn bleidlais i wthio’r blaenoriaethau hyn ymlaen."

This website uses cookies

Like most websites, this site uses cookies. Some are required to make it work, while others are used for statistical or marketing purposes. If you choose not to allow cookies some features may not be available, such as content from other websites. Please read our Cookie Policy for more information.

Essential cookies enable basic functions and are necessary for the website to function properly.
Statistics cookies collect information anonymously. This information helps us to understand how our visitors use our website.
Marketing cookies are used by third parties or publishers to display personalized advertisements. They do this by tracking visitors across websites.