Cronfa Cymorth Dewisol (DAF)

Mae Taliadau Cymorth Brys y Gronfa Cymorth Dewisol yn grantiau sy’n gallu helpu i dalu costau hanfodol (gan gynnwys nwy a thrydan) os ydych:

•            yn profi caledi ariannol eithriadol;

•            wedi colli eich swydd; neu

•            wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf

Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa hon ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Taliadau Tanwydd y Gaeaf

Gall pobl a gafodd eu geni ar 26 Medi 1955 neu cyn hynny dderbyn rhwng £100 a £300 ar ffurf Taliad Tanwydd y Gaeaf. Nid yw'r taliad hwn yn dibynnu ar brawf modd a chaiff ei roi yn awtomatig i bobl gymwys fel arfer os ydynt yn cael pensiwn y wladwriaeth neu fudd-dal nawdd cymdeithasol arall (nid Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth y Cyngor, Budd-dal Plant neu Gredyd Cynhwysol).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar www.gov.uk/winter-fuel-payment neu drwy ffonio 0800 731 0160.

Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Gostyngiad blynyddol un-tro o £140 ar fil trydan yw hwn – nid yw'r arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr.

Os defnyddir mesurydd trydan lle telir ymlaen llaw neu dalu wrth fynd, gall aelwydydd drefnu dull arall o gael y gostyngiad gyda'u cyflenwr ynni, fel taleb i ychwanegu arian at y mesurydd.

Gallwch fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn mewn un o ddwy ffordd:

  • Os ydych yn derbyn elfen Credyd Gwarantedig y Credyd Pensiwn. Dylai defnyddwyr cymwys gael llythyr rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr i roi gwybod iddynt sut i wneud cais. Cysylltwch â'r Tîm Gostyngiad Cartrefi Cynnes i gael rhagor o wybodaeth drwy ffonio 0800 731 0214;

    • Os ydych ar incwm isel ac yn bodloni meini prawf y cyflenwr ynni unigol ar gyfer y cynllun. Cysylltwch â'ch cyflenwr ynni i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais.

Mae rhestr o'r holl gyflenwyr ynni sy'n rhan o'r cynllun ar gael ar wefan Gov.uk. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.gov.uk/the-warm-home-discount-scheme.

Gostyngiad Cartrefi Cynnes – Cartrefi Parciau

Gall preswylwyr cartrefi mewn parciau sy'n cael eu bilio am eu trydan trwy berchennog safle'r parciau wneud cais am ad-daliad o £140 tuag at eu bil tanwydd. Mae meini prawf yn berthnasol o ran pwy sy’n gymwys. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Gostyngiad Cartrefi Cynnes – Cartrefi Parciau.

Taliadau Tywydd Oer

Dylai hawlwyr cymwys gael taliad tywydd oer o £25 yn awtomatig am bob 7 diwrnod olynol o dywydd oer iawn (sero gradd celsius neu is ar gyfartaledd) yn eu hardal dros gyfnod y gaeaf (1 Tachwedd i 31 Mawrth).

Gall etholwyr sy'n derbyn y budd-daliadau canlynol gael Taliad Tywydd Oer:

•            Credyd Pensiwn; Cymhorthdal Incwm;

•            Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar incwm;

•            Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm; Credyd Cynhwysol; neu

•            Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais.

Bydd etholwyr sy'n derbyn Credyd Pensiwn yn cael Taliadau Tywydd Oer fel arfer, ond rhaid bodloni meini prawf ychwanegol i fod yn gymwys ar gyfer budd-daliadau eraill.

Cewch ragor o wybodaeth yn www.gov.uk/cold-weather-payment.

Gellir hawlio Taliad Tanwydd y Gaeaf, y Gostyngiad Cartrefi Cynnes a'r Taliad Tywydd Oer ochr yn ochr â'i gilydd.

Dyled Ynni

Os na all etholwr dalu ei fil ynni ac mae’n mynd i ddyled, dylai ei gyflenwr ynni roi cyfle iddo dalu'r ddyled drwy gynllun talu.

Mae gan Ofgem Strategaeth i Ddefnyddwyr Agored i Niwed tan 2025 sy'n nodi ei flaenoriaethau i helpu defnyddwyr nwy a thrydan sydd mewn sefyllfaoedd heriol.

Mae hefyd wedi nodi sut mae’n amddiffyn defnyddwyr agored i niwed. Mae rhestr ar waelod y daflen ffeithiau hon o ffynonellau annibynnol sy’n rhoi cyngor ar ddyled ynni.

Mesuryddion talu ymlaen llaw

Mae Ofgem wedi cydnabod bod angen gwell cefnogaeth ar ddefnyddwyr sydd heb gredyd ar ôl ar fesurydd talu ymlaen llaw. "Hunan-ddatgysylltu" yw’r term a ddefnyddir ganddynt ar gyfer hyn. Ym mis Rhagfyr 2020 nododd reolau newydd i leihau nifer y cwsmeriaid talu ymlaen llaw sy'n mynd heb ynni pan nad oes credyd ar ôl. Gall etholwyr sy'n wynebu anawsterau mewn cysylltiad â mesuryddion talu ymlaen llaw gael cyngor annibynnol gan un o'r sefydliadau a restrir ar ddiwedd y daflen ffeithiau hon.

Didyniadau trydydd parti/Tanwydd Uniongyrchol

Mae’n bosibl y gallai etholwyr dalu rhai o'u biliau ynni/tanwydd yn uniongyrchol o'u budd-daliadau os ydynt yn cael anawsterau ariannol. I fod yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn, rhaid i'r etholwr fod yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:

•            Credyd Cynhwysol;

•            Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar incwm;

•            Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag Incwm;

•            Cymhorthdal Incwm;

•            Credyd Pensiwn.

I wneud cais, dylai etholwyr gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith (neu'r Gwasanaeth Pensiwn os ydynt ar Gredyd Pensiwn).

Cewch ragor o wybodaeth yn www.gov.uk/bills-benefits.

Grantiau Cyflenwyr Ynni

Mae rhai cyflenwyr ynni yn cynnig grantiau i breswylwyr sy'n wynebu caledi ariannol i’w helpu i dalu dyledion ynni. Dim ond cwsmeriaid y cwmnïau o dan sylw sy’n cael hawlio’r rhan fwyaf o’r grantiau. Cewch fanylion am grantiau ar wefan Cyngor ar Bopeth.

Tystysgrifau Perfformiad Ynni

Mae angen Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ar gyfer y rhan fwyaf o adeiladau pan maent yn cael eu hadeiladu, eu gwerthu neu eu rhentu, ond mae rhai eithriadau. Bydd y dystysgrif yn manylu ar berfformiad ynni'r eiddo a pha gamau y gellir eu cymryd i'w wella.

Bydd hyn yn rhoi gwybod i ddarpar berchennog neu denant pa mor ddrud fydd cynhesu eu cartref newydd. Mae’r dystysgrif yn cynnwys:

•            Gwybodaeth am yr ynni a ddefnyddir mewn eiddo a’i gostau ynni nodweddiadol; ac

•            Argymhellion ynghylch sut i ddefnyddio llai o ynni ac arbed arian.

Mae’r dystysgrif hon yn rhoi gradd effeithlonrwydd ynni i eiddo sy’n amrywio rhwng A (y mwyaf effeithlon) i G (y lleiaf effeithlon) ac mae'n ddilys am 10 mlynedd.

Mae rhagor o wybodaeth am y tystysgrifau, gan gynnwys manylion am adeiladau nad oes angen un, ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.

Cymorth gan awdurdodau lleol

Mae gan lawer o awdurdodau lleol gynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni. Gellir targedu'r rhain ar gyfer mathau penodol o aelwydydd (fel y rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd) neu ardaloedd daearyddol (fel ardaloedd adnewyddu tai). Yn ogystal â grantiau, gallai benthyciadau (fel Benthyciadau Gwella Cartrefi a ariennir gan Lywodraeth Cymru) fod ar gael hefyd i berchnogion tai a landlordiaid. Nod Benthyciadau Gwella Cartrefi yw gwneud yn siŵr bod gan bobl gartref o ansawdd uchel sy’n gynnes, diogel ac yn effeithlon o ran ynni.

Cysylltwch â’r awdurdod lleol perthnasol i gael rhagor o gyngor. Mae manylion cyswllt awdurdodau lleol ar gyfer y cynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gall awdurdodau lleol hefyd osod eu meini prawf eu hunain o ran pwy sy’n gymwys ar gyfer cymorth trwy ECO3, cyn cyfeirio aelwydydd at gyflenwyr ynni fydd yn gorfod eu helpu. Cymhwysedd hyblyg yw’r enw ar gyfer hyn. Dylai etholwyr gysylltu â'u hawdurdod lleol i gadarnhau a ydynt yn cymryd rhan ac i holi am bwy sy’n gymwys.

Cyngor i bobl hŷn

Age Cymru: Mae Age Cymru yn cynnig gwasanaeth cyngor cyfrinachol, diduedd a rhad am ddim. Ffoniwch 08000 223 444 neu ebostiwch advice@agecymru.org.uk;

Gofal a Thrwsio: Mae Gofal a Thrwsio yn helpu pobl hŷn i fyw’n ddiogel ac yn gyfforddus yn eu cartrefi eu hunain. Cewch fanylion asiantaethau lleol yn careandrepair.org.uk/cy/get-help/ neu ffoniwch 0300 111 3333;

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Gallai Tîm Gwaith Achos Diogelu a Chraffu y Comisiynydd gynnig cymorth neu gyfeirio at sefydliad partner. Ffôniwch: 03442 640 670 neu ebostiwch: ask@olderpeoplewales.com.

Cyngor ar arian a dyled

Cefnogir gwasanaeth MoneyHelper gan Lywodraeth y DU a gall gynnig cyngor ariannol diduedd a rhad ac am ddim. Ffoniwch 0800 138 0555 (Cymraeg) neu 0800 138 7777 (Saesneg). Cewch wybodaeth ar ei wefan hefyd: www.moneyhelper.org.uk;

Mae MoneySavingExpert.com yn wefan sy'n rhoi defnyddwyr yn gyntaf ac mae’n rhoi gwybodaeth am ystod o faterion, gan gynnwys biliau cyfleustodau a sut i newid tariffau ynni;

Gall National Debtline roi cyngor ar reoli dyled tanwydd ochr yn ochr â dyledion personol eraill a gyda chyflenwyr ynni. Cewch ragor o wybodaeth ar ei wefan www.nationaldebtline.org neu drwy ffonio 0808 808 4000;

Gall Stepchange Debt Charity roi cyngor rhad ac am ddim ar ddyledion. Gall hefyd helpu i greu cyllideb gynaliadwy a rhoi cyngor ar y ffordd orau o fynd i’r afael â dyled mewn amgylchiadau penodol. Cewch ragor o wybodaeth ar eu gwefan www.stepchange.org neu drwy ffonio 0800 138 1111.

Effeithlonrwydd ynni

Charis Grants: Mae Charis yn rheoli cynlluniau ar ran cwmnïau, awdurdodau ac elusennau - gan gynnwys cwmnïau ynni. Ewch i www.charisgrants.com/individuals/, ebostiwch info@charisgrants.com neu ffoniwch 01733 421 021 am ragor o wybodaeth.

Nyth: Mae gwybodaeth am gymorth ar gael i bawb yng Nghymru drwy fynd i nyth.llyw.cymru neu ffonio 0808 808 2244. Gallai rhai aelwydydd fod yn gymwys i gael grantiau;

Cymru Gynnes: Gallai Cymru Gynnes helpu pobl ar incwm isel ac sydd â biliau gwresogi uchel. Gallai hyn dalu am gyflenwad nwy neu foeler newydd, neu helpu i inswleiddio cartrefi’n well. Cewch ragor o wybodaeth yn www.warmwales.org.uk/cy/ neu drwy ffonio 01656 747623.

Cyngor a gwybodaeth gyffredinol

Cyngor ar Bopeth: ewch i www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/ i gael cyngor ar ystod eang o faterion gan gynnwys dyledion a budd-daliadau, neu ffoniwch 0344 477 2020;

Turn2us: Mae Turn2us yn helpu pobl mewn angen ariannol i gael budd-daliadau lles, grantiau elusennol a chymorth ariannol arall – ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb drwy sefydliadau partner. Ewch i www.turn2us.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.

This website uses cookies

Like most websites, this site uses cookies. Some are required to make it work, while others are used for statistical or marketing purposes. If you choose not to allow cookies some features may not be available, such as content from other websites. Please read our Cookie Policy for more information.

Essential cookies enable basic functions and are necessary for the website to function properly.
Statistics cookies collect information anonymously. This information helps us to understand how our visitors use our website.
Marketing cookies are used by third parties or publishers to display personalized advertisements. They do this by tracking visitors across websites.