Rhagor am Jane

Cafodd Jane ei geni a'i magu ar aelwyd Gymraeg yn Wrecsam, gogledd Cymru. Mynychodd Ysgol Morgan Llwyd cyn astudio gofal cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar ôl gorffen ei haddysg, aeth Jane ati i fod yn weithiwr cymdeithasol am 27 mlynedd, gan weithio i amddiffyn plant agored i niwed yn y DU a thramor.

Ym mis Tachwedd 2012, dychwelodd Jane i Gymru gan symud i'r Trallwng i helpu i ofalu am ei mam oedrannus a oedd yn dioddef o ddementia.

Yn ddiweddarach, symudodd Jane o'r Trallwng i'r Gelli Gandryll gyda'i gŵr Patrick.

Cafodd Jane ei hethol yn Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ym mis Tachwedd 2017 a daeth yn Aelod o'r Senedd dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru (sy'n cynnwys Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a rhan o Wynedd) ym mis Mai 2021.

Cyn hynny bu’n Aelod Seneddol yn San Steffan dros Frycheiniog a Sir Faesyfed.

Mae’r amgylchedd, lles plant a'r economi wledig yn faterion sy’n agos iawn at galon Jane.

Gweledigaeth Jane ar gyfer Cymru

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos pa mor fregus yw ein cymdeithas, a faint o bobl sy'n cael eu gadael ar ôl gan y drefn sydd ohoni.

Ni all hyn barhau.

Rwyf am ein gweld yn newid Cymru er gwell, gan greu gwlad gryfach ar ôl y pandemig, a newid ein cymdeithas fel ein bod yn rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bawb i dyfu a ffynnu.

Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid i ni Fynnu Gwell. Nid nawr yw'r amser i gecru. Nawr yw'r amser i gydweithio i greu'r gymdeithas decach yr ydym i gyd am ei gweld.

Fy ngweledigaeth ar gyfer Cymru

Mae angen ffordd newydd o fyw yng Nghymru. Mae hynny'n golygu bod angen i ni fod yn ofalgar a thosturiol a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael y cyfle i ffynnu a gwella eu bywydau.

Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn dorri'r cylch tlodi yn ein cymunedau, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a helpu pawb i fyw bywydau gwell ac iachach.

Rwyf am i ni roi cyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd popeth a wnawn a gwneud yn siŵr ein bod ar flaen y gad yn y frwydr i adeiladu economi werdd ar gyfer y dyfodol. Rydym hefyd am drwsio ein rhwyd diogelwch cymdeithasol fel bod pawb yn cael yr help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

Mae angen i ni edrych ar ffyrdd o wneud pethau'n wahanol hefyd. Dyna pam rwyf am ein gweld yn dilyn ôl troed Sbaen a'r Almaen a gweld a oes modd cynnig trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim. Hefyd, rwyf am ein gweld yn ailfeithrin cysylltiadau economaidd â'r UE ac arbed deintyddiaeth y GIG rhag diflannu’n llwyr.

Nid nawr yw'r amser i gynnal y drefn sydd ohoni. Mae'r amser wedi dod i gael syniadau newydd a radical i godi Cymru allan o gylch dieflig tlodi.

Os ydych chi'n credu yn y weledigaeth hon i Gymru, ac yn credu bod yn rhaid i ni Fynnu Gwell na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, ymunwch â ni.

 

Diolch yn fawr,

Jane Dodds AS

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

This website uses cookies

Like most websites, this site uses cookies. Some are required to make it work, while others are used for statistical or marketing purposes. If you choose not to allow cookies some features may not be available, such as content from other websites. Please read our Cookie Policy for more information.

Essential cookies enable basic functions and are necessary for the website to function properly.
Statistics cookies collect information anonymously. This information helps us to understand how our visitors use our website.
Marketing cookies are used by third parties or publishers to display personalized advertisements. They do this by tracking visitors across websites.