De Caerdydd a Phenarth – Alex Wilson

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhoeddi mai Alex Wilson yw eu hymgeisydd ar gyfer De Caerdydd a Phenarth yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Mae Alex yn byw yn yr etholaeth gyda'i wraig a'u mab, a safodd fel ymgeisydd dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn etholiadau diweddaraf y Senedd a'r cyngor.

Mae Alex a thîm lleol y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymgyrchu'n llwyddiannus ar nifer o faterion gan gynnwys herio cynlluniau i adeiladu dros 500 o gartrefi yn Fferm Cosmeston ar ôl paratoi adroddiad cynhwysfawr ar effaith amgylcheddol a seilwaith y datblygiad. Denodd eu deiseb i achub Cae-y-Maen gannoedd o lofnodion, gan orfodi Cyngor Bro Morgannwg i gadw'r adeilad at ddefnydd cyhoeddus.

Ar ôl dilyn gyrfa lwyddiannus ym maes rheoli gwerthiannau, ymddeolodd Alex yn gynnar er mwyn neilltuo mwy o amser gyda’i deulu a'r gwahanol rolau cymunedol sy’n bwysig iddo. Mae Alex o gefndir dosbarth gweithiol, ac ymunodd â’r Democratiaid Rhyddfrydol oherwydd ei ymrwymiad i adeiladu cymdeithas decach, fwy rhyddfrydol a goddefgar i bawb, beth bynnag fo'u rhyw, ethnigrwydd neu gefndir economaidd-gymdeithasol.

I ffwrdd o fyd gwleidyddiaeth, mae Alex yn rhedeg cwmni theatr gymunedol leol, mae’n llywodraethwr ysgol ac yn hyfforddi tîm dan 10 oed Clwb Pêl-droed Sili. 

Wrth sôn am gael ei ddewis yn ymgeisydd, dywedodd Alex Wilson:

"Mae cynrychioli'r gymuned rwy'n ei charu yn anrhydedd imi. Rwy'n teimlo bod y rhai sydd mewn grym yn gorffwys ar eu rhwyfau ac mae'n hen bryd i bobl yr etholaeth hon gael eu clywed. Rwy'n clywed y rhwystredigaeth a'r dadrithiad yn lleisiau pobl wrth drafod y penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud gan y Senedd a reolir gan Lafur, a'r dicter wrth siarad am sut mae'r Ceidwadwyr wedi bradychu pleidleiswyr yn etholiad diwethaf San Steffan.

Rwy'n credu'n gryf y gall Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dorri cylch methiant Llafur a’r Torïaid. I'r rhai sy'n hoffi ein polisïau ond sy'n credu mai gwastraff pleidlais fyddai pleidleisio i’r Democratiaid Rhyddfrydol, cofiwch – dyna'n union y mae Llafur a'r Ceidwadwyr am ichi ei gredu, felly bydd yr un hen drefn yn parhau. Bydd gwella'r wlad wych hon yn cymryd amser, ond mae'r daith hiraf yn dechrau gyda'r cam cyntaf."

Cyswllt

This website uses cookies

Like most websites, this site uses cookies. Some are required to make it work, while others are used for statistical or marketing purposes. If you choose not to allow cookies some features may not be available, such as content from other websites. Please read our Cookie Policy for more information.

Essential cookies enable basic functions and are necessary for the website to function properly.
Statistics cookies collect information anonymously. This information helps us to understand how our visitors use our website.
Marketing cookies are used by third parties or publishers to display personalized advertisements. They do this by tracking visitors across websites.