Etholiadau Mewnol y Blaid
Mae ein plaid yn cael ei rhedeg gan aelodau, ar gyfer aelodau. Mae pawb yn cael eu hethol gan aelodau eraill, gan gynnwys ein harweinydd, aelodau o bwyllgorau’r blaid neu'r timau sy'n rhedeg eich plaid leol.
Cewch wybodaeth ar y dudalen hon am etholiadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd, sut i sefyll, a sut i enwebu aelodau eraill.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys:
- Pa rolau sydd ar gael ar hyn o bryd?
- Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
- Sut i wneud cais?
- Sut i ddangos fy nghefnogaeth i ymgeiswyr?
- Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pa rolau sydd ar gael ar hyn o bryd?
Cynhaliwyd etholiadau ar gyfer aelodau pwyllgorau tua diwedd 2022. Ar hyn o bryd rydym yn gwahodd ceisiadau i lenwi rolau na chafodd eu llenwi'n wreiddiol.
Swyddogion y Blaid
Mae Swyddogion y Blaid yn aelodau arweiniol ar gyfer un o swyddogaethau'r blaid ac maent yn aelodau o sawl pwyllgor.
Rolau gwag:
Aelodau Pwyllgor y Blaid yng Nghymru
Caiff aelodau cyffredin o'r pwyllgor eu hethol gan aelodau i'w cynrychioli ar bwyllgorau'r blaid, a'n cynghorwyr etholedig sy'n ethol y Cynrychiolydd o Lywodraeth Leol ar y Pwyllgor Datblygu Polisi.
Rolau gwag:
- Aelod o'r Pwyllgor Ymgyrchoedd a Chyfathrebu (3 swydd y gwag)
- Cynrychiolydd o fyd Llywodraeth Leol o'r Pwyllgor Datblygu Polisi (1 swydd y gwag)
- Aelod o'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau (1 swydd y gwag)
- Aelod o'r Pwyllgor y Gynhadledd (1 swydd y gwag)
Cynrychiolwyr i Bwyllgorau'r Blaid Ffederal
Er mwyn sicrhau bod y wlad gyfan yn cael ei chynrychioli ym mhenderfyniadau'r Blaid Ffederal, mae gan y blaid yng Nghymru gynrychiolydd ar Bwyllgorau'r Blaid Ffederal. Mae'r cynrychiolydd yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod y penderfyniadau a wneir gan y Blaid Ffederal yn ystyried Cymru a'r blaid yng Nghymru.
Rolau gwag:
-
Cynrychiolydd Cymraeg o'r Pwyllgor y Gynhadledd Ffederal
Aelodau o Baneli Apeliadau'r Blaid
Mae Paneli Apeliadau'r blaid yng Nghymru a'r blaid ffederal yn dyfarnu ar anghydfodau o fewn y blaid nad ydynt yn dod o dan broses gwynion annibynnol y blaid e.e. pan fo aelod o blaid leol yn credu bod ei hawliau o dan gyfansoddiad y blaid wedi eu torri.
Rolau gwag:
- Aelod o Baneli Apeliadau'r Blaid Gymreig (9 swydd y gwag)
-
Cynrychiolydd Cymraeg o Baneli Apeliadau'r Blaid Ffederal (1 swydd y gwag)
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
Mae unrhyw aelod o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gymwys i roi eu henwau ymlaen ar gyfer unrhyw un o'r rolau gwag, ac eithrio'r Cynrychiolydd Llywodraeth Leol ar y Pwyllgor Datblygu Polisi ac aelodau o'r Panelau Apeliadau.
Dim ond cynghorwyr etholedig y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n gymwys i sefyll i fod yn Gynrychiolydd Llywodraeth Leol ar y Pwyllgor Datblygu Polisi.
Nid yw Aelodau o'r Senedd, darpar ymgeiswyr y Senedd neu San Steffan, Aelodau o Fwrdd y Blaid yng Nghymru neu'r Pwyllgor Ymgyrchoedd a Chyfathrebu, na gweithwyr y blaid yn gymwys i sefyll i fod Baneli Apeliadau Cymru neu Ffederal. Gall unrhyw aelod arall wneud cais.
Sut i wneud cais?
Rhaid i unrhyw aelod sy'n dymuno sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad lenwi ffurflen gais.
Gellir lawrlwytho ffurflenni cais a'u dychwelyd drwy ebost neu drwy'r post.
Lawrlwytho ffurflen gais (Microsoft Word)
Lawrlwytho ffurflen gais (PDF)
Bydd angen i aelodau gael cefnogaeth gan aelodau eraill o'r blaid i allu gwneud cais am rai rolau. Mae nifer y cefnogwyr sydd eu hangen yn amrywio yn dibynnu ar gyfrifoldeb y rôl:
-
I fod yn Aelodau Cyffredin o'r Pwyllgor ac yn Gynrychiolwyr i Bwyllgorau'r Blaid Ffederal, mae angen cefnogaeth 5 aelod o'r blaid ar ymgeiswyr.
-
I fod yn Gynrychiolydd Llywodraeth Leol i'r Pwyllgor Datblygu Polisi, mae angen cefnogaeth 5 cynghorydd etholedig y Democratiaid Rhyddfrydol ar ymgeiswyr.
-
Nid oes angen cefnogaeth ar ymgeiswyr i fod yn Swyddogion y Blaid ac yn aelodau o'r Paneli Apeliadau.
Mae gwybodaeth isod am sut y gall aelodau'r blaid ddangos eu cefnogaeth. Gall ymgeiswyr gysylltu ag aelodau eraill y maen nhw'n eu hadnabod i ofyn iddyn nhw gefnogi eu cais drwy ebost, ffôn neu gyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr ddefnyddio dulliau cyfathrebu torfol (e.e. llwyth o negeseuon ebost) na defnyddio data o gronfeydd data'r blaid i gael gafael ar fanylion cyswllt aelodau eraill.
Ni ddylai ymgeiswyr ofyn am gefnogaeth gan bobl sy'n cael eu cyflogi gan unrhyw gangen o'r Democratiaid Rhyddfrydol. Rhaid i staff aros yn niwtral yn ystod y broses hon gan fod yn rhaid iddyn nhw weithio gyda phwy bynnag sy'n cael ei ethol.
Sut i ddangos fy nghefnogaeth i ymgeiswyr?
Os hoffech chi ddangos eich cefnogaeth i ymgeisydd yn yr etholiadau mewnol hyn, mae angen i chi ddatgan eich cefnogaeth drwy ddefnyddio ein porth ar-lein, neu lawrlwytho, argraffu, llenwi a dychwelyd ffurflen bapur.
Dim ond aelodau'r blaid sy'n cael datgan eu cefnogaeth i ymgeiswyr. Bydd angen i chi wybod enw eich blaid leol a'ch rhif aelodaeth gyda'r blaid i ddatgan eich cefnogaeth. Enw'r sir neu'r etholaeth yr ydych chi'n byw ynddi yw enw eich blaid leol fel arfer, a bydd eich rhif aelodaeth ar y rhan fwyaf o'r gohebiaethau gan y blaid. Os oes angen cymorth arnoch chi, ebostiwch elgan.morgan@libdems.wales.
Porth Ar-lein
Lawrlwytho ffurflen (Microsoft Word) i'w hargraffu
Lawrlwytho ffurflen (PDF) i'w hargraffu
Dim ond un ymgeisydd y cewch ei gefnogi ar gyfer pob rôl wag h.y. os oes un rôl wag ar gael, dim ond un ymgeisydd y cewch ei gefnogi, os oes tair rôl wag ar gael mewn pwyllgor, cewch gefnogi hyd at dri o bobl. Bydd unrhyw ymdrechion dilynol i ddatgan cefnogaeth yn cael eu hanwybyddu.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pan fydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn mynd heibio, byddwn yn rhoi gwybod i aelodau pwy sydd wedi gwneud cais ac wedi cael y gefnogaeth ofynnol.
Os bydd nifer yr ymgeiswyr yn fwy na nifer y rolau gwag, neu os bydd y cyfansoddiad yn mynnu bod angen etholiad, bydd pleidlais yn cael ei chynnal. Fel arall, bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hethol
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi godi unrhyw fater sy'n ymwneud â chynnal yr etholiadau hyn, cysylltwch â Chyfarwyddwr Gweithrediadau Dros Dro y Blaid yng Nghymru, Elgan Morgan, drwy ebostio elgan.morgan@libdems.wales