
Brycheiniog Tawe Nedd
Mae Brycheiniog Tawe Nedd yn etholaeth newydd y Senedd sy’n cynnwys etholaethau San Steffan Brycheiniog, Maesyfed a Cwm Tawe a Castell Nedd a Dwyrain Abertawe

1) Jane Dodds
Dewiswyd Jane Dodds fel rhif un ar restr y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar gyfer etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd.
Mae Jane Dodds wedi gwasanaethu fel Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ers 2021 ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer mwy o ddeintyddion yn yr etholaeth, wedi ymgyrchu’n llwyddiannus i wrthdroi toriadau ar Reilffordd Calon Cymru ac wedi ymgyrchu yn erbyn toriadau i wasanaethau cyhoeddus lleol yn ogystal â galw am fwy o fuddsoddiad a chefnogaeth i’r gymuned wledig.
Cyn mynd i mewn i wleidyddiaeth, bu Jane yn gweithio fel gweithiwr gofal cymdeithasol amddiffyn plant am fwy na 27 mlynedd.
Facebook: https://www.facebook.com/JaneDoddsWLD
X (yn flaenorol Twitter): https://x.com/DoddsJane
Instagram: https://www.instagram.com/janedoddswld

2) Cynghorydd William Powell
Mae’r Cynghorydd William Powell wedi cynrychioli Talgarth ar Gyngor Sir Powys ers 2004 ac roedd yn Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 2011 a 2016. Mae’n athro ieithoedd modern cymwysedig wrth ei alwedigaeth ac yn bartner yn fferm y teulu.

3) Cynghorydd Jackie Charlton
Mae Jackie Charlton yn Gynghorydd Sir profiadol ym Mhowys, lle mae’n dal portffolio’r amgylchedd. Mae hi wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Sir dros Langatwg ers 2017 ac, ar ôl uno Llangatwg a Llangynidr yn 2022, trechodd Arweinydd presennol Powys i ennill yr etholaeth newydd.
Wrth fod mewn gwrthblaid rhwng 2017 a 2022, cyflwynodd Jackie sawl cynnig llwyddiannus i’r cyngor, gan gynnwys mwy o gydnabyddiaeth i ofalwyr di-dâl a datgan Argyfwng Hinsawdd yn 2020.
Mae Jackie wedi byw yn Llangatwg ers 1989 ac wedi bod yn aelod gweithgar o’r gymuned mewn sawl rôl, yn ogystal â bod yn Weithiwr Cydraddoldeb proffesiynol gan weithio i Awdurdod Datblygu Cymru am 6 blynedd. Bu Jackie yn Apenodiad Llywodraeth Cymru i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am 10 mlynedd ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Powys rhwng 2000 a 2003. Yn ogystal, bu Jackie’n Is-Gadeirydd i’r Ymddiriedolaeth a’r Bwrdd Iechyd Lleol.

4) Phoebe Jenkins
Mae Phoebe Jenkins yn sefyll etholiad i ddod â newid ystyrlon i’w chymuned.
Fel mam sy’n gweithio, mae Phoebe eisiau hyrwyddo lleisiau trigolion lleol drwy roi blaenoriaeth i’w hanghenion a’u pryderon yn y Senedd a sicrhau na fyddant yn cael eu hanwybyddu bellach.
Mae’r argyfwng tai, tlodi plant, diffyg mynediad at feddygon teulu a deintyddion ymhlith blaenoriaethau Phoebe ac, fel rhywun sy’n caru’r amgylchedd naturiol, mae’n bryderus iawn am lygredd ein dyfrffyrdd yng Nghymru – dyna pam y bydd yn pwyso am reoliadau llymach yn erbyn y rhai sy’n gollwng carthion.
Dywedodd hi “Fel mam sy’n gweithio gyda theulu ifanc, rwy’n deall yr heriau o ddydd i ddydd a all godi wrth chwilio am ofal plant fforddiadwy – dyna pam y byddaf yn gweithio i ddileu’r rhwystrau sy’n atal cymaint o deuluoedd rhag cael mynediad at ofal plant.”