
Caerdydd Ffynnon Taf
Mae Caerdydd Ffynnon Taf yn etholaeth newydd y Senedd sy’n cwmpasu etholaethau San Steffan Dwyrain Caerdydd a Gogledd Caerdydd
![[Translate to Welsh:] Cllr Rodney Berman](/fileadmin/_processed_/c/a/csm_Cllr-Rodney-Berman_6b308aebf4.jpg)
1) Cynghorydd Rodney Berman
Dewiswyd y Cynghorydd Rodney Berman yn ymgeisydd rhif un ar restr y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar gyfer etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf yn dilyn pleidlais gan aelodau lleol y blaid.
Mae Rodney Berman yn Gynghorydd yng Nghaerdydd dros Benylan ac fe wasanaethodd fel Arweinydd Cyngor Caerdydd am wyth mlynedd rhwng 2004 a 2012, cyfnod lle gwelwyd cynnydd sylweddol yn y gyfradd ailgylchu ac yn y cyllid a roddwyd i ysgolion. Mae’n falch o fod wedi derbyn OBE am ei wasanaeth i lywodraeth leol a’r gymuned yng Nghaerdydd yn 2013. Ar hyn o bryd mae’n arwain Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Caerdydd.
Mae Rodney wedi byw yng Nghaerdydd am y rhan fwyaf o’i fywyd ers cymryd swydd ymchwil ym mhrifysgol yn y 1990au cynnar.
Yn gweithio ym maes polisi iechyd ar hyn o bryd, cynrychiolodd Rodney fuddiannau meddygon yn ystod Covid-19, ac erbyn hyn mae’n eu cynorthwyo i ddylanwadu ar bolisi iechyd Cymru ac i ymladd dros delerau ac amodau gwell o wasanaeth. Mae’n frwd dros leihau anghydraddoldebau iechyd.
Facebook: https://www.facebook.com/rodneybermanwld
X (gyntTwitter): https://x.com/rodneyberman