![[Translate to Welsh:] Mike Hamilton](/fileadmin/_processed_/e/1/csm_Mike_Hamilton_faf2f3b29e.jpg)
Casnewydd Islwyn
Casnewydd Islwyn yw etholaeth newydd y Senedd sy’n cynnwys etholaethau San Steffan Dwyrain Casnewydd a Gorllewin Casnewydd ac Islwyn
![[Translate to Welsh:] Mike Hamilton](/fileadmin/_processed_/e/1/csm_Mike_Hamilton_081db96199.jpg)
1) Mike Hamilton
Mae Dr Mike Hamilton wedi cael gyrfa amrywiol, gan ddechrau yn y Llynges Fasnach fel Swyddog Peirianneg, cyn astudio gradd ac yna Ph.D. mewn archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi cloddio yn y Balcanau, ynghyd â Wiltshire, Cymru a’r Hebrides Allanol. Darlithiodd am ddegawd ym Mhrifysgol Casnewydd. Bu’n gynghorydd yng Nghasnewydd, yn aelod cabinet ac yn ddirprwy arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd. Un o ymgyrchwyr mwyaf gweithgar y Democratiaid Rhyddfrydol yn y rhanbarth. Mae wedi sefyll dros y Senedd a San Steffan ar dair achlysur, ac enillodd y canlyniad gorau i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru pan safodd ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn 2024.