
Ceredigion Penfro
Mae Ceredigion Penfro yn etholaeth newydd y Senedd sy’n cwmpasu etholaethau San Steffan Ceredigion, Preseli a Chanol a De Sir Benfro
![[Translate to Welsh:] Sandra Jervis](/fileadmin/_processed_/d/d/csm_WhatsApp_Image_2025-04-04_at_20.34.29__1__94597bcfdd.jpeg)
1) Sandra Jervis
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhoeddi y bydd Sandra Jervis yn arwain rhestr ei plaid ar gyfer etholaeth Ceredigion Penfro yn etholiad y Senedd 2026, yn dilyn pleidlais gan aelodau’r blaid yn yr etholaeth.
Mae Sandra yn berchennog busnes bach, sy’n rhedeg siop deunydd ysgrifennu Creative Cove yn Llanbedr Pont Steffan, lle mae wedi byw ers 20 mlynedd. Mae ganddi dri phlentyn gyda’i gŵr Paul, ac mae ganddi hanes o ymgyrchu yn yr ardal, gan gynnwys cynlluniau i symud Llyfrgell Llanbedr.
Facebook: https://www.facebook.com/profile.php?id=61575677759688

2) Cynghorydd Alistair Cameron
Ymunodd Alistair â’r Blaid Ryddfrydol yn 1984. Bu’n Gynghorydd Bwrdeistref Cheltenham rhwng 1986 a 1998 ac yn Gynghorydd Sir Glwceister rhwng 2000 a 2005. Bu hefyd yn Ymgeisydd San Steffan, Senedd a’r Senedd Ewrop.
Cafodd Alistair ei ethol yn Gynghorydd Sir Benfro dros Kilgetty a Begelly yn 2022. Ef yw Cadeirydd Democratiaid Rhyddfrydol Sir Benfro ac ALDC Cymru.
Mae Alistair wedi gweithio mewn Adnoddau Dynol ac fel athro mewn coleg addysg bellach. Ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol mewn ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yng NghSir Benfro.