Ar ôl graddio’n ddiweddar o'r Ysgol Newyddiaduraeth a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd, dechreuodd Ryan ei rôl fel Swyddog Cyfathrebu ‘nôl ym mis Hydref eleni.
Ei gyfrifoldebau:
Bod yn brif gyswllt y blaid â’r cyfryngau ac ymateb i geisiadau sy'n dod i mewn,
Gweithio gyda llefarwyr ar bob lefel i helpu i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd a chael sylw cadarnhaol yn y wasg ar gyfer Democratiaid Rhyddfrydol Cymru,
Meithrin perthynas waith dda gyda newyddiadurwyr yng Nghymru a mynd ati’n rhagweithiol i drefnu slotiau ar gyfer arweinwyr ymgyrchoedd ar gyfryngau darlledu,
Cymryd yr awenau wrth wneud yn siŵr bod ymweliadau yumgyrchu yn cael sylw yn y cyfryngau a gweithio gyda staff y blaid i gefnogi cynadleddau a digwyddiadau eraill,
Helpu i roi cyngor a hyfforddiant i siaradwyr, ymgeiswyr a gwirfoddolwyr.
Cefnogi ymgyrch ddigidol drwy gynhyrchu a chyhoeddi cynnwys ar-lein.
Like most websites, this site uses cookies. Some are required to make it work,
while others are used for statistical or marketing purposes. If you choose not
to allow cookies some features may not be available, such as content from other
websites. Please read our Cookie Policy for more information.