Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhoeddi mai Franck Banza fydd eu hymgeisydd ar gyfer Gŵyr yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Mae Franck Banza wedi cael ei ddewis yn swyddogol yn ymgeisydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer etholaeth Gŵyr yn yr etholiad cyffredinol i ddod.
Mae Franck yn adnabyddus am ei lwyddiannau fel entrepreneur cymdeithasol ac arweinydd yn y trydydd sector, ac mae’n cynnig arbenigedd helaeth wrth weithio gyda sefydliadau amrywiol fel elusennau, mentrau cymdeithasol, a busnesau bach lleol. Ac yntau wedi byw yn lleol ers nifer o flynyddoedd, mae Franck yn deall yn union beth yw’r materion o bwys i’r etholaeth, o greu cyfleoedd economaidd i ehangu gwasanaethau cymunedol.
Cafodd Franck ei eni yn y Congo ac mae’n ymwybodol o’r brwydrau y mae grwpiau ymylol yn eu hwynebu a sut mae eirioli dros les cymuned gyfan yn gallu trawsnewid. Ei daith bersonol sydd wedi meithrin ei natur benderfynol i barhau i frwydro – a dyma’r natur y mae bellach yn ei sianelu i wella bywyd yng Ngŵyr.
Yn yr etholiad hwn, mae Franck yn rhoi blaenoriaeth i gynnig cyfleoedd gyrfaol ac addysgol i bobl ifanc, buddsoddi mewn seilwaith i gefnogi twristiaeth, gwneud yn siŵr bod tai fforddiadwy ar gael, yn ogystal â hyrwyddo amrywiaeth a chydlyniant cymdeithasol.
Wrth sôn am gael ei ddewis yn ymgeisydd, dywedodd Franck Banza:
"Rwy'n credu y dylai etholwyr yng Ngŵyr deimlo bod ganddyn nhw lais cryf. Mi fydda i’n ymgysylltu â nhw i gael gwybod beth sydd ei angen arnyn nhw trwy arolygon rheolaidd, mynd i ddigwyddiadau lleol a gwneud yn siŵr fy mod ar gael. Drwy fod yn ymgeisydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros Gŵyr, rwyf am arwain ymgyrch sy'n hyrwyddo gwerthoedd y blaid a dyheadau'r gymuned leol. Mae fy ymrwymiad i gymdeithas decach, fwy cynhwysol, yn ogystal â'm profiad ym maes datblygu cymunedol, yn golygu mod i’n gynrychiolydd delfrydol ar gyfer Gŵyr."
Dywedodd Jane Dodds AS, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:
"Rwy'n falch o adnabod Franck ac rwy’n gwybod ei fod yn actifydd ymroddedig a gweithgar. Mae'n gwybod sut i arwain ac ysgogi tîm a chanolbwyntio ar ennill dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. O ystyried cyfoeth ei brofiadau, bydd Franck yn gynrychiolydd gwleidyddol eithriadol ar gyfer cymuned Gŵyr."
Facebook/Meta: https://www.facebook.com/franck.banza.5
Twitter/X: @banzaf1
Gwefan: www.franckforgower.com