Mae Democratiaid Rhyddfrydol Ceredigion wedi ailddewis Mark Williams yn ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer Preseli Ceredigion yn dilyn pleidlais gan aelodau lleol y blaid. Mark Williams oedd AS Ceredigion rhwng 2005 a 2017 ac mae hefyd wedi bod yn Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Mae ef a'i wraig Helen, sy'n rhedeg yr Hwb Cymunedol lleol, yn byw yn y Borth gyda'u pedwar o blant.
Ers 2017, mae Mark wedi ailafael yn ei yrfa addysgu ac mae wedi parhau i fod yn weithgar mewn ystod o sefydliadau gwirfoddol ac elusennau lleol.
Wrth sôn am gael ei ddewis yn ymgeisydd, dywedodd Mark Williams:
"Rwy'n falch iawn o fod yn ymgeisydd unwaith eto yn fy etholaeth enedigol. Dyma’r ardal lle rydym yn byw, lle mae fy mhlant wedi cael eu magu ac wedi ffynnu, ac rwy'n credu'n angerddol bod gan yr ardal gymaint o botensial.
"Mae Ceredigion yn lle gwych i fyw ynddo, ond yn rhy aml mae'n cael ei anwybyddu gan Lywodraeth y DU yn San Steffan a Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd.
"Dyna pam mae angen llais cryf ar Geredigion yn y Senedd a pham y byddaf yn gweithio'n galed i ailennill y sedd a rhoi buddiannau Ceredigion yn gyntaf. Mae cynrychioli cymunedau lleol a rhoi llais iddynt wastad wedi bod y nodwedd sy’n diffinio’r Democratiaid Rhyddfrydol.
"Mae ymrwymiad y Democratiaid Rhyddfrydol i ryngwladoliaeth, amddiffyn ein hamgylchedd naturiol, pledio achos gofalwyr a diwygio ein democratiaeth yn bethau rwy'n edrych ymlaen yn fawr at siarad â thrigolion amdanyn nhw ar garreg y drws.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Sir Ceredigion:
"Rwy'n falch iawn bod Mark wedi cael ei ddewis yn ymgeisydd ar ein rhan i fod yn aelod yn San Steffan yn yr etholiad nesaf. Rwyf i a'm cydweithwyr yng ngrŵp y cyngor yn edrych ymlaen yn fawr at ymgyrchu gyda Mark ar y materion sydd bwysicaf i drigolion a busnesau'r sir. Mae Mark yn ymgyrchydd ymroddedig ac nid yw wedi llaesu dwylo mewn gwirionedd ers gadael San Steffan, gan ei fod yn weithgar yn ei gymuned leol ac wedi ymgyrchu ar draws y sir ar sawl mater. Mae Mark yn ddyn uchel iawn ei barch ac mae’n hen law ar gyflawni pethau. Rwy'n gwybod na all aros i fynd ati i ymgyrchu unwaith eto."
Yr Athro Mike Woods, Cadeirydd Democratiaid Rhyddfrydol Ceredigion:
"Mae gan Mark record digymar yn brwydro dros Geredigion. Rydym wrth ein bodd mai ef yw ein hymgeisydd eto a byddwn yn ymgyrchu'n galed i'w gael yn ôl yn San Steffan yn yr etholiad nesaf."
Ychwanegodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a'r Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Jane Dodds:
"Rydw i wrth fy modd bod Mark Williams wedi cael ei ailddewis i sefyll fel ein hymgeisydd yng Ngheredigion lle mae gennym gyfle gwych i ailennill y sedd.
"Mae gan Mark y profiad, yr egni a'r tosturi i fod yn llais cryf dros Geredigion yn San Steffan ac mae ganddo fy nghefnogaeth lawn, fel Arweinydd y Blaid yng Nghymru ac fel Aelod o’r Senedd ar ran Canolbarth a Gorllewin Cymru.
"Rwy'n edrych ymlaen at chwarae rhan lawn yn yr ymgyrch i gael Mark yn ôl yn San Steffan."