Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhoeddi mai Mike O'Carroll yw eu hymgeisydd ar gyfer Gorllewin Abertawe yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Mae’n byw yn yr ardal ac yn ymgyrchydd lleol hirdymor, ac ef fydd yn sefyll ar ran y blaid ar gyfer Gorllewin Abertawe yn yr etholiad nesaf. Mae'n gyn-berchennog busnes ac yn gyn-filwr wrth gefn. Mae’n byw yn ardal Sandfields ar hyn o bryd, ar ôl symud i Abertawe 10 mlynedd yn ôl.
Rhoi trefn ar ein GIG, mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, a sicrhau bargen deg ar drethi a budd-daliadau yw blaenoriaethau gwleidyddol Mike. Mae wedi bod yn frwd o blaid morlyn llanw Bae Abertawe ers amser maith ac mae o’r farn nad yw llywodraethau'r DU a Chymru yn manteisio ar y cyfle i helpu Cymru i arwain ym maes ynni gwyrdd.
Wrth sôn am gael ei ddewis yn ymgeisydd, dywedodd Mike O'Carroll:
"Mae’r ffiniau etholaethol newydd ar gyfer Gorllewin Abertawe yn golygu y bydd yn frwydr rhyngof i a'r ymgeisydd Llafur. Nid oes gan y Ceidwadwyr na Phlaid Cymru unrhyw gynghorwyr yn yr etholaeth newydd ac rwy'n gofyn i gefnogwyr y Ceidwadwyr a'r Blaid roi eu pleidlais i mi er mwyn trechu Llafur. Byddaf yn gwrthsefyll ymyrraeth ormodol Llafur ac yn cyflwyno fy nghynllun i gael Cymru i weithio drwy gynnig cymorth gofal plant am ddim, buddsoddi mewn ynni gwyrdd, a bargen deg ar drethi a budd-daliadau".
Ychwanegodd: "Mae'n amlwg bod angen newid ar y wlad yn yr etholiad nesaf er mwyn sicrhau twf economaidd yn seiliedig ar fargen deg. Fe fydda i a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn ymgyrchu i gyflwyno bargen deg ar swyddi, costau byw, a'n GIG. Bydd yr etholiad nesaf yn gyfle gwych i gyflawni newid yn Abertawe ac rwy'n gofyn i bobl fy nghefnogi i gyflawni hynny."
Dywedodd arweinydd grŵp gwrthblaid Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Chris Holley OBE:
"Mae Mike yn ymgeisydd gwych ar gyfer cyflawni newid yn Abertawe. Mae'n ddyn lleol, gweithgar, pwyllog ac mae’n barod i ddweud yr hyn sydd ar ei feddwl. Mae Llafur wedi dominyddu Cymru ac Abertawe yn rhy hir, ac maen nhw wedi ein siomi. Nawr yw’r amser am ymagwedd newydd, ac ar ôl gweithio gyda Mike ers blynyddoedd lawer, rwy'n credu mai ef yw'r dyn ar gyfer y rôl.”
Twitter/X: https://twitter.com/MikeEOCarroll
Gwefan : www.sglibdems.wales/our-team/mike-ocarroll