Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhoeddi mai Rodney Berman yw eu hymgeisydd ar gyfer Dwyrain Caerdydd yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Mae Rodney Berman yn Gynghorydd ym Mhen-y-lan ar Gyngor Caerdydd a bu’n Arweinydd Cyngor Caerdydd am wyth mlynedd rhwng 2004 a 2012.
Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, goruchwyliodd gynnydd enfawr yn y gyfradd ailgylchu a'r arian a roddwyd i ysgolion. Mae'n falch o fod wedi derbyn OBE am ei wasanaeth i lywodraeth leol a'r gymuned yng Nghaerdydd yn 2013.
Mae Rodney wedi byw yng Nghaerdydd am y rhan fwyaf o'i fywyd ar ôl ymgymryd â rôl ymchwil yn y brifysgol ar ddechrau'r 90au. Mae Rodney yn gweithio ym maes polisi iechyd ar hyn o bryd ac fe gynrychiolodd fuddiannau meddygon yn ystod Covid-19. Mae'n rhoi cyngor ar faterion iechyd cyhoeddus ac mae lleihau anghydraddoldebau iechyd yn rhywbeth sy’n agos iawn at ei galon.
Mae Rodney Berman a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi datgan bod Llafur wedi cymryd Caerdydd yn ganiataol dros y blynyddoedd diwethaf ar bob lefel gan mai nhw sydd wedi bod wrth y llyw yn ystod methiannau yn y system gofal iechyd, yr argyfwng cladin a thrafnidiaeth gyhoeddus. Yn hytrach na pharhau â’r drefn sydd ohoni lle mae Lafur yn dominyddu yng Nghymru, a’r Ceidwadwyr yn gwneud smonach llwyr o reoli’r economi, mae’r blaid yn credu y gall gynnig dewis gwahanol a phositif.
Wrth sôn am gael ei ddewis yn ymgeisydd, dywedodd y Cynghorydd Rodney Berman:
"Ar ôl byw yn yr etholaeth hon am bron i ddeng mlynedd ar hugain, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw cael rhywun yn dadlau eich achos. Mae pobl leol wedi cael llond bol ar lywodraethau a chyngor sy'n eu cymryd yn ganiataol. A minnau wedi bod yn gynghorydd yn yr ardal ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi brwydro'n galed am lawer o welliannau fel bod gwasanaethau da yn yr ardal - o groesfannau newydd a chynlluniau diogelwch ffyrdd eraill, i wneud ein strydoedd yn fwy diogel, llyfrgell newydd ac ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd.
"Yn rhy aml o lawer, nid yw cynrychiolwyr Llafur lleol wedi gwrando ar bryderon y gymuned na chymryd camau i’w lleddfu. Mae llawer gormod o bobl yn dweud wrtha i nad ydyn nhw’n credu bod Llafur yn gwrando arnyn nhw o ddifrif ac yn mynd i’r afael â materion fel y tagfeydd cynyddol ar ffyrdd Caerdydd, toriadau i wasanaethau bysiau lleol, neu frwydro i ailagor Canolfan Hamdden Pentwyn. Maen nhw’n anobeithio am ansawdd rhai o'n gwasanaethau lleol fel casgliadau gwastraff, a'r bygythiad i gasglu biniau du yn llai aml, er bod treth y cyngor yn parhau i godi dro ar ôl tro.
"Yn rhy aml mae ein cynrychiolwyr Llafur ar ran yr ardal yn y Senedd a San Steffan yn dawel ar bryderon o'r fath, felly mae gwir angen rhywun lleol i godi ei lais a rhoi'r ardal hon yn gyntaf. Dyna fyddwn i am ei wneud pe byddwn yn cael y cyfle i fod yn AS ar ran yr ardal."

Facebook: https://www.facebook.com/rodneybermanwld
Twitter: https://twitter.com/rodneyberman