Sarah Green AS yw llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Gymru yn Nhŷ'r Cyffredin.
Cafodd Sarah ei geni a'i magu yng Nghorwen, yng ngogledd Cymru ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Astudiodd Sarah ym Mhrifysgol Aberystwyth lle bu'n Gadeirydd Rhyddfrydwyr Ifanc Cymru. Ar ôl cwblhau ei haddysg, aeth Sarah ymlaen i weithio ym maes marchnata a chyfathrebu cyn cael ei hethol yn AS dros Chesham ac Amersham yn 2021.
Yn ogystal â bod yn llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Gymru yn Nhŷ'r Cyffredin, hi hefyd yw llefarydd y blaid ar Fasnach Ryngwladol.