![[Translate to Welsh:] Kevin Wilkins](/fileadmin/_processed_/4/7/csm_KW_monnow_88de30e974.jpg)
Sir Fynwy Torfaen
Mae Sir Fynwy Torfaen yn etholaeth newydd y Senedd sy’n cynnwys etholaethau San Steffan Sir Fynwy a Thorfaen
![[Translate to Welsh:] Kevin Wilkins](/fileadmin/_processed_/4/7/csm_KW_monnow_fd256504cf.jpg)
1) Kevin Wilkins
Yn ôl ei alwedigaeth mae Kevin yn godi arian dros wyddoniaeth ac yn ymchwilydd bellach; mae’n byw yn Y Fenni wedi dychwelyd i Gymru ar ôl treulio 30 mlynedd yn byw ac yn gweithio yn ardal Caergrawnt.
Mae ganddo brofiad hir o ymgyrchu cymunedol llwyddiannus; dros y blynyddoedd, mae wedi llwyddo i frwydro i achub llyfrgell, swyddfa bost a gwasanaeth bws pan oeddent o dan fygythiad ac fe helpodd i achub rhedfa o goed ceirios rhag cael eu cwympo. Pe caiff ei ethol, byddai gwella ein GIG a diogelu ein hafonydd yn flaenoriaethau iddo.
Cafodd Kevin ei eni ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’i fagu ym Mro Morgannwg ac yn agos at Goedwig y Ddena.
![[Translate to Welsh:] Brendan Roberts](/fileadmin/_processed_/b/2/csm_Brendan_Roberts_New_a99a448fb8.jpeg)
2) Brendan Roberts
Mae Brendan wedi neilltuo ei yrfa i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl – boed hynny drwy weithio yn y sector cyhoeddus fel gweithiwr sifil ac yn swyddog llywodraeth leol, cefnogi pobl ifanc â phrofiad gofal yn y trydydd sector, neu bellach yn y sector preifat gyda Hilton.
Fel Is-gadeirydd Cyngor Cymuned Henllys mae wedi gweld o lygad y ffynnon sut y gall gweithredu lleol gryfhau cymunedau. O helpu i sefydlu cynllun gwarchod cymdogaeth i gefnogi grantiau ar gyfer sefydliadau lleol a chenedlaethol fel Cludiant Cymunedol Torfaen ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae Brendan hefyd wedi bod yn rhan o daith Cymru i wella gofal i blant – gan gyfrannu at ddiwygiadau o amgylch rhianta corfforaethol a’r ymgyrch i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal.