Dirprwy Arweinydd y Blaid ac Arweinydd y Grŵp Seneddol (San Steffan)

Y Farwnes Christine Humphreys yw Dirprwy Arweinydd ac Arweinydd Grŵp Seneddol y Blaid yn San Steffan

Rhagor am y Farwnes Humphreys

Y Farwnes Humphreys o Lanrwst yw Dirprwy Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac Arweinydd Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae Christine wedi bod yn Llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a chyn hynny, yn Aelod o Gynulliad Cymru dros Ranbarth Gogledd Cymru o 1999 – 2001 lle bu'n llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Gymru ar yr Economi, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd. Roedd Christine yn arfer bod yn gynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Bwrdeistref Bae Colwyn hefyd.

Cyn hynny, roedd hi'n athrawes Saesneg ac yn Bennaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol mewn ysgol cyfrwng Cymraeg. Cafodd ei phenodi i Dŷ'r Arglwyddi ym mis Medi 2013.

Cyfrifoldebau Dirprwy Arweinydd y Blaid ac Arweinydd Grŵp Seneddol y Blaid yn San Steffan:

  1. Dirprwyo ar ran Arweinydd y Blaid;
  2. Cynrychioli Grŵp Seneddol y Blaid yn San Steffan; a
  3. Cydlynu gwaith Grŵp Seneddol y Blaid yn San Steffan gyda gwaith y blaid a grwpiau seneddol eraill.

Cewch ragor o fanylion yng nghyfansoddiad y blaid.

This website uses cookies

Like most websites, this site uses cookies. Some are required to make it work, while others are used for statistical or marketing purposes. If you choose not to allow cookies some features may not be available, such as content from other websites. Please read our Cookie Policy for more information.

Essential cookies enable basic functions and are necessary for the website to function properly.
Statistics cookies collect information anonymously. This information helps us to understand how our visitors use our website.
Marketing cookies are used by third parties or publishers to display personalized advertisements. They do this by tracking visitors across websites.