Ymunodd Jon â'r Blaid Ryddfrydol, fel yr oedd bryd hynny, ym 1980 pan oedd yn yr ysgol. Mae wedi bod yn aelod gweithgar ers hynny. Roedd Jon yn aelod o Gyngor Tref Llanelli o 1991-95, ac mae wedi bod yn Asiant Etholiad Cyffredinol San Steffan deirgwaith ac yn Asiant Etholiad y Cynulliad unwaith. Mae Jon bellach wedi ymddeol ar ôl gofalu am ei fam a'i frawd cyn iddyn nhw farw.
Ers dechrau chwarae rhan o ddifrif yn Nemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ym 1993, mae Jon wedi bod mewn sawl swydd. Yn benodol, mae wedi bod yn Ysgrifennydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, aelod o Fwrdd Cymru a'i ragflaenydd NEC Cymru. Mae hefyd wedi bod yn aelod o'r rhan fwyaf o bwyllgorau'r blaid yng Nghymru dros y blynyddoedd yn ogystal â bod yn gynrychiolydd Cymru i Bwyllgor Ffederal y Gynhadledd a Phwyllgor Ffederal Datblygu Pobl.