Sut mae Jane yn gallu helpu:

Mae'r dudalen hon wedi'i chreu i ateb llawer o'r cwestiynau mwyaf cyffredin yr hoffech eu gofyn. Os hoffech chi weld rhywbeth arall yn cael ei ychwanegu, rhowch wybod i mi drwy ebostio Jane.Dodds@Senedd.cymru

Mae manylion sefydliadau eraill a allai eich helpu i’w gweld ar waelod y dudalen hon.

I gael gafael ar adnoddau defnyddiol ar gyfer busnes, neu gyngor a chefnogaeth ar gyfer delio â'r argyfwng costau byw, edrychwch ar dudalen Jane sy’n cyfeirio at adnoddau penodol.

Beth mae Aelodau o'r Senedd yn ei wneud?

Mae Aelodau o Senedd Cymru (ASau) yn cael eu hethol gan drigolion sy’n byw mewn etholaethau a rhanbarthau ledled Cymru.

Yn y Senedd mae’r Aelodau yn cymryd rhan mewn trafodaethau ac yn pleidleisio ar gyfreithiau arfaethedig a materion eraill.

Mae llawer o’r Aelodau yn aelodau o bwyllgorau hefyd sy'n edrych ar gyfreithiau arfaethedig neu waith adrannau unigol y llywodraeth. Bydd rhai ohonynt yn weinidogion y llywodraeth neu’n llefarwyr ar ran y gwrthbleidiau.

Gall Aelodau helpu eu hetholwyr drwy fynd i'r afael â materion gydag adrannau'r Llywodraeth a thrwy godi pryderon lleol yn y Senedd.

Ai fi yw eich Aelod o’r Senedd?

Mae fy rhanbarth etholaethol yn cynnwys yr ardaloedd canlynol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru: Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a rhan o Wynedd.

Ewch i wefan y Senedd i weld ai fi yw’r Aelod o'r Senedd sy’n eich cynrychioli. Rhowch eich côd post yn y blwch i gael gwybod.

A fedra i helpu hyd yn oed os nad fi yw eich AS?

Na fedraf, yn anffodus. Mae rheolau llym yn y Senedd sy’n mynnu mai dim ond pobl a busnesau sy'n byw/wedi’u lleoli yn yr etholaeth neu'r rhanbarth a gynrychiolir gan yr ASau sy’n gallu cael cymorth ganddynt. Bydd y ddolen uchod yn rhoi manylion am bwy yw eich AS a dylech gysylltu â nhw.

Sut i gysylltu â mi

Ebostiwch: Jane.Dodds@Senedd.Cymru

Ysgrifennwch ata i: Jane Dodds AS, 11 Stryd Llew, Aberhonddu, LD3 7HY

neu: Jane Dodds AS, Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd. CF99 1SN.

Ffoniwch ein swyddfa: 0300 200 7231

 

Pa mor gyflym y cewch ymateb gen i?

Rwy'n derbyn cannoedd o geisiadau am gymorth a gwybodaeth a, gyda chymorth fy ngweithwyr achos, rwy’n ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn delio â phopeth cyn gynted â phosibl. Edrychir ar bob cais am help ar ôl eu derbyn a chaiff achosion brys eu blaenoriaethu. Yn anffodus, gall hyn olygu y bydd yn rhaid i chi aros am ateb.

Fy nod yw ymateb i bob cais am gymorth o fewn 10 diwrnod gwaith. Weithiau, gall gymryd ychydig yn hirach os bydd yn gais arbennig o gymhleth neu ar adegau pan mae’r galw am gymorth ar ei uchaf.

O ran ymholiadau ar faterion polisi, fy nod unwaith eto yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, rydym yn blaenoriaethu achosion personol ar adegau prysur a gall gymryd mwy o amser i ymateb i ymholiadau am bolisïau a chymeradwyo ymgyrchoedd.

Os nad ydych wedi cael ymateb i ymholiad, ffoniwch fy swyddfa neu anfonwch ebost ata i.

.

Beth yw cymhorthfeydd cyngor a phryd maen nhw?

Mae cymorthfeydd cyngor yn gyfleoedd i etholwyr ddod i siarad â mi am unrhyw faterion neu broblemau personol sydd ganddynt. Mae fy ngweithwyr achos a minnau yn cymryd manylion y problemau cyn mynd ati i wneud ymholiadau yn eu cylch. Mae cymorthfeydd cyngor ar gyfer etholwyr yn unig.

Mae’r lleoliad a’r diwrnod a’r amser y cynhelir y cymorthfeydd cyngor yn amrywio ar draws yr etholaeth fel eu bod o fewn cyrraedd i gynifer o etholwyr â phosibl dros gyfnod o amser. Yn anffodus, am resymau ymarferol, mae'n anodd cyhoeddi'r holl fanylion ymlaen llaw weithiau.

Sut i gael apwyntiad mewn cymhorthfa

Rwy'n cynnal system sy’n seiliedig ar apwyntiadau. I drefnu apwyntiad, ebostiwch jane.dodds@sendd.cymru neu ffoniwch 0300 200 7231.

Mae’r cymorthfeydd cyngor a gynhelir cyn bo hir i’w gweld yma.

Os nad oes cymhorthfa gyngor cyn bo hir, mae’n bosibl y bydd modd trefnu cyfarfod yn uniongyrchol gyda chi. Cysylltwch â'm swyddfa drwy ddefnyddio'r ebost a'r rhif uchod.

Bydd fy staff yn gofyn am eich enw, manylion cyswllt a chyfeiriad, yn ogystal â manylion y mater rydych chi am ei drafod gyda mi. Y ffaith nad oes digon o gymorthfeydd i fodloni pawb yw’r rheswm am hyn, felly rydym am wneud y defnydd gorau o'ch amser chi (a fy amser innau) trwy wneud ymchwil ragarweiniol cyn i chi gwrdd â mi. Gall hyn olygu cysylltu â thrydydd partïon cyn cwrdd â chi i gael eu barn ar y sefyllfa.

Mewn achos brys, neu os oes rhesymau pam na allwch roi manylion dros y ffôn neu'n ysgrifenedig, fe wnaf fy ngorau i drefnu amser ar eich cyfer cyn gynted ag y gallaf.

Os nad yw'n bosibl cwrdd â chi - er enghraifft, os nad oes unrhyw apwyntiadau ar gael mewn cymorthfeydd am beth amser - efallai y byddaf yn gofyn ichi gwrdd ag un o fy ngweithwyr achos. Bydd ef neu hi yn cymryd nodiadau, yn gofyn cwestiynau, yn edrych ar unrhyw waith papur sydd gennych ac yn adrodd yn ôl i mi.

Os oes gennych chi anghenion arbennig, rhowch wybod imi ar unwaith er mwyn inni allu addasu i'ch anghenion ym mha bynnag ffordd bosibl.

Beth yw'r ffordd orau i'm gwahodd i ddigwyddiad?

Y ffordd orau i'm gwahodd i ddigwyddiad yw anfon ebost ata i - jane.dodds@senedd.cymru

Wrth anfon gwahoddiad, byddwch mor glir â phosibl ynghylch beth yw'r digwyddiad, gan nodi’r lleoliad a’r dyddiad, a’r amseroedd y bydd yn dechrau ac yn gorffen. Os ydych chi am i mi wneud unrhyw beth yn y digwyddiad - e.e. gwneud araith – nodwch hynny os gwelwch yn dda.

Rwy'n derbyn dros gant o wahoddiadau bob mis, ac ni allaf fynd i bob un, yn anffodus. Byddaf yn blaenoriaethu'r rhai yn fy rhanbarth a'r rhai sy'n ymwneud ag etholwyr cyffredin neu faterion o bwys yn y rhanbarth.

Fy rôl fel Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Fi yw Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Mae croeso i chi gysylltu â mi mewn perthynas â fy rôl fel Arweinydd, ond nid oes gennyf gefnogaeth ysgrifenyddol i ymateb i'r llu o syniadau da yr wyf yn eu derbyn. Felly, mae’n bosibl na fyddaf yn gallu ymateb yn unigol ac mor gyflym ag y gallaf ar gyfer gwaith achos. Os ydych yn anfon ebost ataf yn rhinwedd fy swydd fel Arweinydd, cysylltu â mi drwy ebost fyddai orau: leader@welshlibdems.org.uk

 

This website uses cookies

Like most websites, this site uses cookies. Some are required to make it work, while others are used for statistical or marketing purposes. If you choose not to allow cookies some features may not be available, such as content from other websites. Please read our Cookie Policy for more information.

Essential cookies enable basic functions and are necessary for the website to function properly.
Statistics cookies collect information anonymously. This information helps us to understand how our visitors use our website.
Marketing cookies are used by third parties or publishers to display personalized advertisements. They do this by tracking visitors across websites.