Dirprwy Lywydd y Blaid

Y Cynghorydd Sam Bennett yw Dirprwy Lywydd y Blaid

Rhagor am Sam

Mae Sam wedi bod yn ymgyrchydd gweithgar dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Ngheredigion, Brycheiniog a Maesyfed ac erbyn hyn yn Abertawe a Gŵyr.

Sam oedd Cadeirydd y Rhyddfrydwyr Ifanc, ac IR Cymru wedi hynny, rhwng 2011 a 2014. Yn 2019. Sam oedd prif ymgeisydd y blaid yng Nghymru yn etholiadau Senedd Ewrop, ac arweiniodd ymgyrch Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn erbyn Brexit.

Erbyn hyn, mae’n gynghorydd ar Gyngor Abertawe. Enillodd ward y Glannau drwy gymryd 60% o'r bleidlais gan gipio’r ward newydd gyntaf i’r blaid yn Abertawe a Gŵyr ers 2008.

Rolau:

Plaid leol:

  • Abertawe a Gŵyr

 

Cyfrifoldebau Dirprwy Lywydd y Blaid:

  1. Cynorthwyo'r Llywydd i fod yn gynrychiolydd cyhoeddus ar ran aelodau'r blaid;
  2. Cadeirio’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol;
  3. Bod yn bennaf gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r pwyllgor hwn;
  4. Adrodd yn ôl mewn modd amserol am ei weithgareddau, a rhai'r pwyllgor y mae’n gadeirydd arno, yn ogystal ag adrodd yn ôl i aelodau'r Bwrdd ar ôl pob cyfarfod pwyllgor, a'r Gynhadledd yn flynyddol;
  5. Gwneud yn siŵr bod aelodau’r pwyllgor y mae’n gadeirydd arno, ac unrhyw weithgorau a sefydlwyd gan y pwyllgor hwn, yn cael gwybod am unrhyw benderfyniadau perthnasol a wneir gan y Bwrdd neu Bwyllgorau eraill;
  6. Gwneud yn siŵr bod anghenion cymunedau amrywiol yn cael eu hystyried a bod camau’n cael eu cymryd ar sail hynny yn eu holl waith;
  7. Gweithio gyda'r Llywydd, y Swyddogion Gweithredol, aelodau'r Bwrdd, cynrychiolwyr etholedig ac aelodau'r blaid er budd yr hyn sydd orau i'r blaid;
  8. Bod yn ddeiliad cyllideb ar gyfer gweithgareddau ei bwyllgor, a sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw weithdrefnau ariannol a roddir ar waith gan y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau; a
  9. Cyflawni swyddogaethau eraill a ddyrennir iddo gan y Gynhadledd neu'r Cyfansoddiad.

Cewch ragor o fanylion yng nghyfansoddiad y blaid.

 

Cysylltwch â Sam:

Ebost: sam.j.bennett90@gmail.com

This website uses cookies

Like most websites, this site uses cookies. Some are required to make it work, while others are used for statistical or marketing purposes. If you choose not to allow cookies some features may not be available, such as content from other websites. Please read our Cookie Policy for more information.

Essential cookies enable basic functions and are necessary for the website to function properly.
Statistics cookies collect information anonymously. This information helps us to understand how our visitors use our website.
Marketing cookies are used by third parties or publishers to display personalized advertisements. They do this by tracking visitors across websites.