Tim Sly yw Llywydd y Blaid
Ymunodd Tim â'r blaid yn Abertawe ym 1979 a bu’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Halton. Bu hefyd yn ymgeisydd yn Wrecsam yn etholiadau'r Senedd a San Steffan.
Mae Tim yn rhedeg cwmni technolegau gwyrdd ac mae wedi bod mewn rolau arwain ar draws ystod o sefydliadau nid-er-elw yn y DU, UDA ac Ewrop.
Mae bellach yn Llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac mae'n cadeirio Bwrdd Cymru.
Cewch ragor o fanylion yng nghyfansoddiad y blaid.
Ebost: tim.sly@welshlibdems.org.uk