Y Swyddog Gweithredol ar gyfer Datblygu Polisi

Chloe Hutchinson yw’r Swyddog Gweithredol ar gyfer Datblygu Polisi

Rolau:

Plaid leol:

  • Abertawe a Gŵyr

 

Cyfrifoldebau'r Swyddog Gweithredol ar gyfer Datblygu Polisi:

  1. Cadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor Datblygu Polisi a gwneud yn siŵr bod y pwyllgor yn gweithredu’n briodol;
  2. Bod yn bennaf gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r pwyllgor hwn;
  3. Adrodd yn ôl mewn modd amserol am ei weithgareddau, a rhai'r pwyllgor y mae’n gadeirydd arno, yn ogystal ag adrodd yn ôl i aelodau'r Bwrdd ar ôl pob cyfarfod pwyllgor, a'r Gynhadledd yn flynyddol;
  4. Gwneud yn siŵr bod aelodau’r pwyllgor y mae’n gadeirydd arno, ac unrhyw weithgorau a sefydlwyd gan y pwyllgor hwn, yn cael gwybod am unrhyw benderfyniadau perthnasol a wneir gan y Bwrdd neu Bwyllgorau eraill;
  5. Cyfrannu'n llawn at bennu strategaeth y blaid ar lefel y Bwrdd, yn enwedig o ran eu dyletswyddau penodol eu hunain;
  6. Gwneud yn siŵr bod anghenion cymunedau amrywiol yn cael eu hystyried a bod camau’n cael eu cymryd ar sail hynny yn eu holl waith;
  7. Gweithio gyda'r Llywydd, Swyddogion Gweithredol eraill, aelodau'r Bwrdd, cynrychiolwyr etholedig ac aelodau'r blaid er budd yr hyn sydd orau i'r blaid;
  8. Bod yn ddeiliad cyllideb ar gyfer gweithgareddau ei bwyllgor, a sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw weithdrefnau ariannol a roddir ar waith gan y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau;
  9. Cyflawni swyddogaethau eraill a ddyrennir iddo gan y Gynhadledd neu'r Cyfansoddiad.

Cewch ragor o fanylion yng nghyfansoddiad y blaid.

This website uses cookies

Like most websites, this site uses cookies. Some are required to make it work, while others are used for statistical or marketing purposes. If you choose not to allow cookies some features may not be available, such as content from other websites. Please read our Cookie Policy for more information.

Essential cookies enable basic functions and are necessary for the website to function properly.
Statistics cookies collect information anonymously. This information helps us to understand how our visitors use our website.
Marketing cookies are used by third parties or publishers to display personalized advertisements. They do this by tracking visitors across websites.